Gwybodaeth i gyflenwyr gwasanaeth

Yn yr adran hon:

Ffurflenni cais CDS a ffurflenni cais a hawlio CLS ar gael yn Gymraeg

Fel rhan o weithredu’n Cynllun Iaith Gymraeg, mae nifer o’n ffurflenni ar gael yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Bydd y ffurflenni Cymraeg neu Ddwyieithog ar gael mewn dyluniad tebyg ac i’r un safonau â’r fersiynau Saesneg.

Mae’r ffurflenni CDS a CLS dilynol ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd:

Ewch i’r panel Dogfennau i gael copïau o’r ffurflenni Cymraeg.

Rotas

Manylion cynllun Cyfreithiwr ar Ddyletswydd

Swyddfa Ranbarthol Caer sy’n gyfrifol am weinyddu ac ariannu’r gwasanaeth cyfreithiwr ar ddyletswydd o fewn Cymru.

Mae’r gwasanaeth cyfreithiwr ar ddyletswydd yn rhoi cyngor a chymorth rhad ac am ddim yn yr orsaf heddlu a hefyd yn y llys. Darperir y gwasanaeth gan gwmnïau preifat o gyfreithwyr yn gweithredu mewn ardaloedd o Gymru a hefyd gan Wasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd. Dynodir cyfreithwyr i’r cynllun ar sail rota.

Cysylltwch â Lynne Caul yn ein swyddfa yng Nghaer ar 01244 404 577 os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am rota cyfreithwyr ar ddyletswydd.

Cofnodion Pwyllgor Cymru y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol

Cafodd Pwyllgor Cymru y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol ei lansio’n swyddogol ddydd Gwener 2 Mawrth 2007 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd.

Diben y Pwyllgor yw cryfhau a gwella cyflenwi’r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yng Nghymru drwy ddod ynghyd â gwneuthurwyr polisi ac arianwyr gwasanaethau cyfreithiol a chynghori.

Bydd y Pwyllgor yn hwyluso cyd-gynllunio gwasanaethau cyhoeddus eraill sy’n effeithio ar anghenion gwasanaeth cyngor cyfreithiol cleientiaid.

Mae copiau o'r cofnodion ac adroddiad blynyddol cyntaf y Pwyllgor ar gael yn yr adran dogfennau

Grwpiau Ymgynghorol Cyflenwyr (Provider Reference Groups)

Ceir copiau o gofnodion diweddaraf y pwyllgorau ymgynghorol hyn yn y dogfennau uchod.


 

Diweddarwyd diwethaf: 22 Gorffennaf 2008

Dogfennau
Dolennau
About Us [1] - About legal aid [2] - Community Legal Service (CLS) [3] - Criminal Defence Service (CDS) [4] - Site Map [5] - Help [6] - Document Archive [7] - Search [8] - Home [9] - LSC Online [o]
[Access Key]

© 2008 Legal Services Commission. All Rights Reserved.
Read our: Legal Disclaimer, Privacy and Copyright Notice