Cymru
Croeso i wefan Gymraeg y Comisiwn Gwasanethau Cyfreithiol
Ar y dudalen hon:Am ein gwaith yng Nghymru
Mae’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (LSC) yn gyfrifol am weinyddu cymorth cyfreithiol a darparu dau wasanaeth cyhoeddus pwysig, y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol (CLS) a’r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (CDS).
Paul Davies yw’r Cyfarwyddwr Rhanbarthol sy’n gyfrifol am ddarparu cymorth cyfreithiol sifil a throseddol yng Nghymru. Tom Jones yw Comisiynydd Cymru.
Mae Cymorth Cyfreithiol yn helpu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed a difreintiedig yng nghymunedau Cymru. Mae’r LSC yng Nghymru wedi buddsoddi dros £75 y flwyddyn i ddatblygu’r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol a’r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol i helpu pobl i gael gwasanaethau cyfreithiol o ansawdd uchel sy’n mynd i’r afael â gwir anghenion. Amcangyfrifir y cynorthwywyd 55,000 o bobl yng Nghymru eleni.
Caiff cymorth cyfreithiol yng Nghymru ei reoli gan ein swyddfa yng Nghaerdydd.
Edrych am gymorth cyfreithiol?
Edrych am gymorth cyfreithiol? Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yw’n llinell gymorth sy’n cynnig cyngor cyfreithiol annibynnol a chyfrinachol yn rhad ac am ddim. Galwch y gwasaneth nawr ar 0845 345 4345 neu ewch i : www.cyngorcyfreithiolcymunedol.org.uk
>Nol i'r dechrau
>Darllenwch y tudalennau yma yn Saesneg
![]() |
Diweddarwyd diwethaf: 07 Mawrth 2008

Cymru